Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (265) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 5, 7 a 9 - 11. Tynnwyd cwestiynau 6 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 3, 4, 9, 10 ac 11 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Ar ôl cwestiwn 10 croesawodd y Llywydd ddirprwyaeth o Senedd Gwlad yr Iorddonen, a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys 1
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yng ngogledd Cymru, yn sgil adroddiad a nododd bryderon ynghylch pa mor ddiogel ydyw?
Cwestiwn Brys 2
Dechreuodd yr eitem am 15.21
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnewyddu rhaglen Twf Swydd Cymru, yn sgil y cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i’w hariannu?
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd
Dechreuodd yr eitem am 15.35
NDM5756 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i
sylweddau seicoweithredol newydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 18 Mawrth 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM5755 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod manteision digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n weithredol i wneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gwneir y gorau o fanteision i iechyd y cyhoedd, twristiaeth a'r economi yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5759 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd pennaf Cymru;
2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob blwyddyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid cyllido Cymru ar yr un sail â'r Alban.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw £300 miliwn y flwyddyn;
2. Yn credu y dylai Cymru gael ei hariannu'n deg;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) comisiynu diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham;
b) sefydlu llawr Barnett ar unwaith; ac
c) cynyddu'r grant bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
44 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a 3 ac yn eu lle rhoi:
2. Yn nodi bod astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
19 |
47 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu
cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a'r
cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Derbyniwyd
gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 5 ei
ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5759 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd pennaf Cymru;
2. Yn nodi bod astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.21
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.24
NDM5758 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Addysg heblaw yn yr ysgol
Daeth y cyfarfod i ben am 18.48
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Mai 2015